|
|
|
Mae John ac Alun yn wynebau a lleisiau cyfarwydd ar deledu a radio trwy Gymru gyfan a thu hwnt bellach, y ddau yn dod o bentref bach Tudweiliog ar gyrion Pen LLyn(gyda llaw mae modd i chi weld lluniau o Ben LLyn a'i thraethau, dim ond i chi glicio ar y logo lluniau ar dop y dalen hon). Wedi canu gyda'i gilydd ers bron i 20mlynedd. 1985 oedd y flwyddyn y cychwynnodd ein taith fel deuawd, canu mewn neuaddau bychain a thafarndai o amgylch Pen Llyn a fawr o feddwl na fuasai unhryw beth mwy yn datblygu. Wedi toriad o dair blynedd, ail afael yn yr awennau yn 1988 a chael y cyfle i fynd i stiwdio Sain yn Llandwrog i recordio ein albwm gynta ‘Yr Wylan Wen’ yn 1991. Daeth nifer o alwadau wedyn trwy Gymru i ni fynd i ganu i wahanol fudiadau. Daeth hefyd yr alwad o Sain gan Dafydd Iwan i ddod yn ol i’r stiwdio, a dyna eni y Chwarelwr, sef y gan fwya poblogaidd i ni ei chanu erioed. Aeth i rif un yn siart y Cytgord yn 1992 a chawsom ddisg aur gan gwmni Sain am werthiant o 12 mil o gopia' o’r albwm. Rydym erbyn heddiw yn berchen ar 8 albwm gan gynnwys y fenter ddiweddara, ein albwm Saesneg, ‘Country Favourites’ a recordiwyd yn stiwdio Peter Williams yn Abertawe. Peter sydd hefyd yn un o aelodau y band. Rydym hefyd wedi ymweld a chartref y canu gwlad yn Nashville, Tennessee ac wedi canu ar lwyfan yr enwog Ryman Auditorium yn Downtown Nashville. Mae llawer iawn o'r cyngherddau yn cynnwys nosweithiau i godi arian ar gyfer gwahannol elusenau,a rydym yn falch o allu dweud ein bod wedi casglu miloedd ers i ni ddechrau canu.
Yn chwarae yn amal yn y band mae y gitarydd/cyfansoddwr o Fon, Tudur Morgan, sydd wedi cynhyrchu ein pum albwm diweddaraf. Yn chwarae'r gitar fas mae brodor o Landudno, Gareth Williams, sydd gyda llaw yn ein cefnogi o’r dechra un yn 1991, ac ar brydia mi fydd y drymiwr enwog Charli Britton yn gigio hefo ni, heb anghofio Myfyr Isaac ar y gitar flaen, Dave Rowlands ar y gitar ddur, a’r cefnleisiau, y ddwy ferch o Ben Llyn, Lowri Mererid ag Eleri Fon.
Newydd ers y Nadolig, "Hel Atgofion" albym yw hon yn deyrnged i'r diweddar Eirug Wyn o'r Groeslon. Cofiwch ei bod yn hollol saff i chi archebu ein cynhyrch ar y we, drwy ddefnyddio y dechneg ddiweddara, sef PayPal, neu unhryw gerdyn credid. ( gadewch dridiau i fynd heibio ar ol talu, cyn i chi dderbyn y nwyddau) Cofiwch hefyd am ein rhaglen Radio ar Radio Cymru bob nos Sul, 92-105FM ,rhwng 10yh a-12yb. Gallwch gysylltu a’r sioe trwy e-bostio johnacalun@bbc.co.uk. |